MARWOLAETH MILWR.
Dydd Gwener diweddaf daeth y newydd prudd am farwolaeth Private Richard Owen, mab Mr. a Mrs. Richard Owen, Yr Odyn, gynt o Creigiau Yokehouse, yr hyn a gymerodd le mewn ysbyty yn Llundain.Nid oedd ond pedair ar bymtheg oed. Ymunodd a'r fyddin ar ddechreu'r flwyddyn, ac arhosai yn Winchester ers rhai misoedd. Perthynai i'r 16eg Fataliwn R.W.F.
Deuwyd a'r corff gartref ddydd Llun, a chladdwyd ef heddyw (ddydd Mawrth) yn mynwent Abererch.
Yr Udgorn 08/12/1915
MARW SYDYN MILWR O'R ABERERCH.
Claddedigaeth Barchus.
Dydd Gwener, Rhagfyr 3ydd, bu farw Pte. Richard G. Owen. 17th Batt. R.W.F. yn Winchester yn dra sydyn. Mab ydoedd i Mr a Mrs .Richard Owen, Odyn, Aberech.Ymunodd a'r fyddin tua blwyddyn yn ôl, a bu yn ymarfer yn Llandudno a Winchester. Nid oedd ond 19 mlwydd oed, ac yn rhyfedd iawn bu ef farw y dydd yr oedd y battaliwn yn croesi drosodd am faes y frwydr. Yr oedd yn gwasanaethu ar y tir cyn y rhyfel ac yn fachgen eithriadol o ddeallgar. Yr oedd yn fardd addawol iawn ac wedi enill yn y cyrddau llenyddol o bryd i bryd.
Derbyniodd ei rieni lythyr oddiwrth Major W. Lloyd Griffiths yn cydymdeimlo a hwy yn eu profedigaeth. Rhoddai gymeriad uchel i'r ymadawedig, a sicrhai ei fod wedi cael pob chwareu teg yn yr ysbyty. Cyrhaeddodd ei weddillion i Bwllheli foreu Llun a daeth torf barchus a a lluosog i dalu y gymwynas olaf iddo dydd Mawrth yn Mynwent Abererch.
Gwasanaethai y Parch David Roberts wrth y ty a'r Parch D. Jones. Rheithor, yn y fynwent.
Y prif alarwyr oeddynt, Mr a Mrs Richard Owen (rhieni) Mr a Mrs Owen Williams, Pencaenewydd, Mr a Mrs Dando, Lerpwl, Mr. Owen T. Owen; Mr a Mrs Griffiths, Abererch; Misses Annie Owen, Lizzie Owen, a Tommy Owen (brodyr a chwiorydd), a Mrs. Roland Williams, Talysarn (modryb). Gosodwyd blodeudorch ar ei fedd gan ei frodyr a'i chwiorydd.