PISTYLL NEWYDD DRWG.
Ddydd Mercher caed pellebr yn hysbysu o Ffrainc fod y llanc iraidd, Pte. Roland Buckley wedi cael y "'gas" yn Ffrainc, a'i gyflwr yn ddifrifol.Y mae ym mrwydrau Ffrainc yn awr ers neu wyth neu naw mis. Disgwylid ef adref ar "leave" bob wythnos. Ond wele y newydd. O gan Dduw na welid bellach.
"Yr hyfryd mawr yn torri draw
Yn dweyd fod bore braf gerllaw."
Ond ofnwn fod crefydd ysbrydol wir yn ein mysg yn galw am fwy nos i'n sobri. Credwn mai cynnwys iawn sylwadau y Parch. Morris Thomas a Mr J. G. Jones yn y Seiad Fisol ym Mrynengan parthed ein gweddiau am lwydd Efengyl a gwared o'r rhyfel.
Ceir eu gweld yn y "Fasged" yr wythnos nesaf.
Yr Herald Gymraeg 27/08/1918
MARW ROLAND BUCKLEY. BUARTH LWYD.
Daeth gair ddydd Gwener, 23ain cyfisol, fod Roland wedi marw yn y clearance hospital yn Ffrainc er y 15eg o Awst. Lladdwyd ef trwy'r "gas" gwenwynig. Bachgen anghydmarol ar lawer cyfrif oedd Roland.Buasai yn ugain oed pe'n fyw Tachwedd y 26ain. Efe oedd cefn ei deulu trallodus. ac y mae eu colled yn anaele.
Dyma achos y dylid rhoi iawn tra sylweddol i rieni tlawd dan bwn torrwyd ffon eu gobaith. Beth bynnag yw dyletswyddau ein Gwladwriaeth y mae di-golledu rhieni, etc., yn ddyletswydd flaenaf oll.