CWYMP MILWR.
Perthynai Mr Glyn Roberts. Plasymhenllech, Lleyn, i'r 10th Battalion R.W.F. Ymunodd ef a'i frawd, Private Llewelyn Roberts. ynghyd ag amryw eraill o'r ardal â'r Fyddin yn fuan ar ôl i'r rhyfel dori allan. Bu am fisoedd ym maes y frwydr yn Ffrainc, a chollodd ei fywyd Mawrth 2ail.Yn ôl ei dystiolaeth ei hun yr oedd yn ymladd dros ei wlad a rhyddid a chyfiawnder. Bu farw yn 23 mlwydd oed.
Yr oedd yn fachgen ieuanc o gymeriad rhagorol, a mawr fydd y golled i'w fam ar ei ôl. Dygid tystiolaeth uchel i'w ymroddiad ynglyn a'i waith fel milwr, a dywedai swyddog ei adran fod edrych ar Glyn mor hunanfeddianol a dewr yn foddion i'w wneyd ef yn fwy gwrol i wynebu peryglon.
Daeth llythyr caredig i'w fam oddiwrth y Parch D. Cynddelw Williams, ei gaplan. Cymerai ran yn un o'r seiadau diweddaf y bu ynddi cyn ymuno. Mawr ydyw y cydymdeimlad a'i fam a'i frawd a'r teulu oll yn eu galar.
Wele lythyr y caplan :—7 Mawrth, 1916.
Anwyl Mrs Roberts.,
Teimlaf fel caplan sydd wedi bod gyda'r bechgyn bellach am tua 15 mis y dylwn anfon gair atoch ynglyn a marwolaeth eich anwyl fab, Preifat Glyn Roberts.
Roedd yn un o'r bechgyn anwylaf ac nid wyf yn cofio ei gyfarfod heb gael gwen siriol ganddo. 'Roedd ei wedd yn arwydd o lawer. Credaf amdano ei fod yn meddu y tawelwch a'r hyder hwnw olyga na fu yn esgeulus o'r pethau pennaf.
Byddwn weithiau yn petruso a fyddai ambell un o'r bechgyn mewn pabell yn foddlawn cael cyfarfod gyda'r hwyr, ond byddwn yn sicr o Glyn ei fod ef yn croesawu y cyfle. Un o'r rhai addfwvn hynny gymhwyswyd i fvd gwell na hwn oedd Glyn.
Aeth i'r nef mewn cerbyd o dân. Ddioddefodd ddim, gan i'r alwad ddod mor sydyn. 'Rwy'n hyderus i ddweyd fel yma amdano : dyna dystiolaeth ei gydnabod. Rwyf wedi clywed swyddos ei adran yn rhoddi gair eithriadol iddo. Ceisiwch ymfodloni : fe fagoch fachgen dewr fu farw yng ngwasanaeth ei wlad ac o blaid egwyddorion Teyrnas Nefoedd.
Mae ei frawd Llewelyn mewn iechyd. Yn naturiol teimla o golli ei frawd.
Ymddiriedwch fod y cyfan o dan Lywodraethiad yr unid Ddoeth. Derbyniwch fy nghydymdeimlad dwysaf.
Ydwyf, yr eiddoch yn bur.