WEDI COLLI AR YR HAMPSHIRE.

Newydd prudd a digalon gyrhaeddodd y lle hwn yr wythnos ddiweddaf, sef fod y Lifftenant E Williams, Ty Canol, wedi colli yn y Rhyfel-long Hampshire, oedd yn cludo Arglwydd Kitchener i Rwsia.

Yr oedd Lifftenant Williams yn ddyn ieuanc gobeithiol ac yn ddisglaer ei alluoedd.

Mae cydymdeimlad llwyrar a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw iawn.

Yr Udgorn 14/06/1916


PLETH-DORCH O FLODEU'R AWEN.

Er cof am Lieut. E. Williams, Ty Canol, Nefyn, yr hwn a gollodd ei fywyd pan suddodd yr Hampshire, Mehefin, 1916.

Yr oedd yn ŵr ieuanc boneddigaidd, hynaws a charedig, ac wedi cyrhaedd safle bwysig, trwy ei yni ai ddiwydrwydd.

Clywais am dano unwaith wedi ymweled ag ysgol yn Eifionydd, a'r athraw yn gofyn iddo ddweyd gair wrth yr plant, a dyna ddywedodd :

"Dysgwch eich goreu fy mhlant bach i, ddysgwch chwi byth ormod."

Nodweddiadol iawn o Lieut. Evan Williams. Ergyd drom i blwyf Nefyn oedd ei golli.

(Pennillion coffa gan Megan Lleyn heb eu cynnwys.)

Yr Herald Gymraeg 16/01/1917