BARBAREIDDIWCH Y GELYN.

Morwyr o Drefor a Nefyn wedi Colli.

Dydd Mercher, cyrhaeddodd y newydd fod y gelyn wedi suddo agerlong Brydeinig ac fod deg o'r dwylaw wedi colli eu bywydau, yn eu mysg yr oedd pedwar o forwyr a Leyn, sef Capten Henry William Hughes, Llythyrdy, Trefor, a Mr. John J. Rowlands, Gwydr Mawr, Trefor; y blaenaf yn ŵr priod a theulu, a'r olaf yn fachgen ieuanc 17 mlwydd oed, ac wedi cael y profiad chwerw o fod mewn pedwar llongddrylliad yn flaenorol.

Hefyd, collodd Mr. William Roberts, Caerhyg, a. Mr. Henry Lloyd, Caerlon, Nefyn, eu bywyd yn yr un agerlong.

Cydymdeimlir yn fawr iawn a'u teuluoedd trallodedig.

Yr Herald Gymraeg 04/09/1917