NEFYN NEWYDDION GALARUS.
Daeth newydd am farwolaeth dau fachgen ieuanc hoff o'r fro hon.Un ydoedd Pte. Richard Roberts, Tynyffynon Mynydd Nefyn (Tyngroes), yr hwn oedd yn Ffrainc ers amser maith. Efe oedd fab hynaf yr aelwyd adfydus hon. Ei dad yw Robert Roberts, a'i fam, Margaret Roberts.
Cyn mynd allan i Ffrainc priododd â Gwen, merch Mrs Gwen Owen, gweddw y diweddar Robert Owen, Tanymaes, Nefyn. Yr oedd Richard yn 32 oed. Cwympodd Gorff. 10.
Un o'r bechgyn hoffusaf oedd efe. Bu yn hynod am ei ofal o'i rieni ar hyd ei oes. Nid oedd fachgen mwy dichlynaidd yn y fro, na'r un a gerid yn fwy yn mhob cylch y troai ynddo - parod odiaeth ei gymwynas ac ni chlywid ei lais yn yr heolydd. Bachgen darbodus, gweithgar, a meddylgar - un a garai heddwch yn mhob cylch.
Nis gellid meddwl am ŵr ieuanc mwy anhebyg i wneyd milwr byth; ond aeth trwy orfod heb yngan pan daeth y "Rhaid."
Yr oedd iddo hefyd frawd arall yn y gad, - Evan. Daeth gair Hydref diweddaf ei fod ef yn "missing" er y degfed o Fedi. Disgwylid bob dydd glywed rywbeth o'i helynt, ond bythefnos cyn i'r newydd am golliant Richard ddod daeth y gair o'r War Office yn dweyd eu bod yn rhoi Evan i fyny, ac hyd y gellir casglu ei fod wedi ei ladd. Pedair ar hugain oedd oedran y bachgen bywiog hwn, bachgen a hoffid gan bawb oedd yntau.
Cydymdeimir yn fawr a'u rhieni. Drwg genym hysbysu nad yw iechyd y tad yn gryf o gryn lawer.
Y mae eto bedwar mab yn aros, ac un ferch. Toddedig iawn yw geiriau yr hen nain, Jane Williams, yr hon a drig gyda hwynt erioed. Hyhi a'u magodd. Y mae yn 93 oed ac yn meddu ei holl synwyrau i raddau da, ond teimla fod y ddwy don yma wedi bod yn fwy llethol iddi nag un o donnau mawrion ei mhordaith hir.
Cydymdeimlir yn ddwys â phriod ieuanc Richard.