ODLAU COFFA.

Am y diweddar Evan Roberts, Cae Glas, Mynydd Nefyn. Yr oedd yr ymadawedig yn corporal gyda'r 1st R.W.F., ac yr oedd ar fin gorffen ei ugain mlynedd yn y fyddin pan dorodd y rhyfel allan. Gwasanaethodd ei wlad fel milwr yn y Gatrawd Gymreig yn yr India, Hong Kong a China, ac yr oedd yn bresenol yn y Relief of Pekin, a chlwyfwyd ef yn yr ymgyrch. Trwm yw meddwl iddo syrthio yn aberth i raib y gelyn yn Ffrainc, pan oedd ar fin cael ei bensiwn.

Gedy weddw ieuanc, tri o blant, tad a dwy chwaer i wylo eu colled am dano.

Evan anwyl! rhaid yw eilio
    Odlau coffa ar ei ol;
Rhin a swyn ei fywyd effro
    Sydd mor ber a gwlith y ddol;
Wrth droi'n ol dros bennod atgo
    Cofiaf ef yn fachgen llon
Glan ei rawd a chwim ei osgo,
    Gyda dewrder lon'd ei fron.

Gadael Gwalia Wen am India
    Wnaeth ac ef ond ugain oed,
Draw ar grasboeth frodir Agna
    Ewig ydoedd ar ei droed;
Dewrder ydoedd nod ei fywyd,
    Bywyd milwr lanwai'i fryd;
Gwelodd lawer Cymro dewrfryd
    Yn cau'i lygad ar ein byd.

Pan ddaeth gwys ei wlad o China,
    Gormes geid yn trechu'r gwan;
Croesodd yno i ryfela,
    Ac fel gwron gwnaeth ei ran;
Er ei glwyfo gan y gelyn
    Ar y gwaedlyd gadfaes gwyw,
Cafodd ddod i Fynydd Nefyn
    Adre'n ol o'r gad yn fyw.

Ugain mlynedd o wasanaeth
    A aberthodd dros ei wlad;
Pan ar derfyn ei arwriaeth
    Cafodd eilwaith wys i'r gad;
Cefnodd ar ei blant a'i briod
    Gyda hyder yn ei drem;
Y ca'i ddod yn ol rhyw ddirwnod
    Adre'n fyw o'r frwydr lem.

Ond fe'i siomwyd! Gyfaill tirion,
    Er mor nwyfus gyda'i gledd;
Ar gyfandir oer yr estron
    Yn ei ddisgwyl yr oedd bedd;
Cwympo yno wnaeth yn aberth
    I'r sychedig fidog ddur;
Bydd ei enw byth yn brydferth
    Ar gofrestr rhyddid pur.

I'w hoff deulu, O! y ddyrnod
    Fu ei golli yn y gad;
Duw a fo yn nawdd i'w briod,
    Ac i'w anwyl blant yn Dad;
Er fod pridd a llaid estronol
    Ar ei wyneb glan yn drwch;
Dirgel law y Duw Anfeidrol
    A ofala a ei lwch.
Morfa Nefyn.         CEFNI.

Yr Udgorn 02/01/1917