BODDI WRTH YMDROCHI.

Dydd Mawrth daeth y newydd prudd i'r dref fod Mr. J. M. McCurdy wedi boddi tra yn ymdrochi yn Havre, Ffrainc.

Yr oedd Mr. McCurdy, yn gofalu am orsaf y cable yn Morfa Nefyn ers blynyddau ac er toriad y rhyfel allan yr oedd yn gofalu am orsaf gyffelyb yn Havre.

Cydymdeimiir yn ddwys iawn a'i briod a'i fab a i ferch yn eu galar dwys am dad caredig. Yr oedd tua 53 mlwydd oed.

Yr Herald Gymraeg 20/08/1918