NEWYDD DRWG.
Cafodd trigolion y dref yn gyffredinol fraw neilltuol bore Iau gan y newydd trist fod Mr. Evan Williams-Jones, mab ieuengaf Mr a Mrs Williams-Jones, Old Post Office, wedi syrthio ar faes y gwaed er y 14eg o Ebrill. Ei fam drallodus, ysywaeth, oedd y gyntaf i ddarllen y llythyr a dderbyniwyd yn cynwys yr hysbysiad.Yr oedd yn Ffrainc gyda'r machine gun corps era tua 12 mis, ac wedi bo mewn aml i ysgarmes beryglus o dro i dro. Ond ar y diwrnod crybwyliedig fe'i gorphenwyd mewn amrantiad o'r bron, ac y mae heddyw yn gorwedd yn dawel yn naear y wlad honno ymhell o swn twrf pob magnel, ac uwch-law cyrraedd saethau pob gelyn.
Nid gormod dweyd ei fod yn un o'r gwyr ieuainc hawddgaraf ym y broydd, ac yr oedd iddo'r gair goreu gan bawb. Yn Birkenhead y cyflawnai ei oruchwylion fel asiedydd ers rhai blynyddau cyn ymuno a'r fyddin.
Pwy, yn arbenig, yn Eglwys Parkfield, nas adwaenont ef? Ai onid oedd yn un o'r rhai amlycaf ymhlith ei gweithwyr? Cofia yr holl gantorion, aelodau y Gymdeitihas Lengarol, cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc, ac Ysgol Sul y Plant yn hir am dano. Yr oedd yn fyw i bob symudiad crefyddol, yn neillduol yn y cylchoedd Cymreig bob amser, ac ni omeddai gymeryd unrhyw ran a geisid ganddo, os o fewn ei allu i'w hyrwyddo.
Carai ei wlad a'i phobpeth goreu a chariad mor angerddol ag y carai Goronwy Ynys Mon. Torcalonus ydyw meddwl na chawsai Cymro mor bybyr ag ef fan fechan i orphwys yn un o hen fynwentydd "Gwlad y Bryniau." Pe buasai wedi cael ei arbed, ac wedi cael dychwelyd i'w hen gynefin buasai yn sicr o wneyd ei ol yn lled drwm a hynny er daioni ag aml i gylch.
Yr oedd rhywbeth yn hynod o ennillgar ynddo, a meddiennid ef gan y fath frwdfrydedd dros yr hyn a gymerid mewn llaw ganddo, nes y llwyddai i gario eraill gydag ef bron yn ddiarwybod iddynt eu hunain. Er fod defnyddiau arweinydd ynddo, nid oedd yn ormod o gawr i gymeryd ei arwain, ei dywys, a'i ddysgu ei hunan. Gwerthfawrogai bob cyngor, ac ni fynnai daflu ammharch na sarhad ar neb pwy bynnag. Amhosibl ydyw esbonio'r ffaith ei fod wedi ei gymeryd ymaith yn ŵr ieuanc heinyf, golygus a hardd yr olwg, siriol ei ysbryd ac mor addawol ei ragolygon. Ymha le y daw Rhagluniaeth i mewn? Y fath drueni yw meddwl fod y cenhedloedd Cristionogol wedi mynd i'r fath raddau dan lywodraeth yr un drwg, ac ymollwng i'w law yr offerynau iddo eu trin fel ag y gwnai.
Y mae cvdymdeimlad y dref a'r wlad yn ddwys iawn a'r teulu yn eu galar a'u colled. Nerthed y nefoedd i ymgynnal dan y gawod flin. Caniataed iddynt gael llechu hefyd yn ei chysgod. Huned yntau bellach yn dawel hyd ganiad yr udgorn diweddaf.
Yr Herald Gymraeg 07/05/1918
WEDI SYRTHIO.
Boreu lau diweddaf derbyniwyd y newydd trist fod Evan Williams-Jones, mab ieuengaf Mr. a Mrs. Williams- Jones, Old Post Office, wedi syrthio ar faes y gwaed er y 14eg o Ebrill.Ei fam drallodus oedd y cyntaf i ddarllen y llythyr a dderbyniwyd yn cynwys yr hysbysiad. Yr oedd yn Ffrainc er's tua deuddeng mis gyda'r Machine Gun Corps, ac wedi bod mewn aml i ysgarmes waedlyd o dro i dro. Ond ar y diwrnod crybwylledig fe'i gorphenwyd mewn amrantiad o'r bron, ac y mae heddyw yn gorwedd yn naear y wlad hono ymhell o swn twrw pob magnel, ac uwchlaw cyraedd saethau pob gelyn.
Nid gormod dweyd ei fod yn un o'r gwyr ieuainc hawddgaraf yn y fro, ac yr oedd iddo'r gair goreu gan bawb, Cyn ymuno a'r fyddin gweithiai er's rhai blynyddau fel asiedydd yn Birkenhead, lle yr oedd yn aelod gweithgar a selog o Eglwys M.C. Parkfield. Huned bellach yn dawel hyd ganiad yr udgorn diweddaf.
Y mae cydymdeimlad y dref a'r wlad a'r teulu trallodus yn eu galar a'u colled.