COLLI MORWYR O LEYN.
Dyrnod Eto i Nefyn ac Edeyrn.
Daeth newyddion prudd iawn i Leyn ddiwedd yr wythnos yn hysbyeu am suddiad y llong Edeyrnion, perthynol i Mri. Owen and Watkin Williams, Edeyrn. Suddwyd y llong gan fad tanforawl y gelyn, ac ni bu ar y wyneb ond ychydig funydau ar ôl ei saethu.Collodd pedwar a'r ddeg o'r dwylaw eu bywydau, yn cynwys Capten William Griffiths, Nefyn (prif swyddog), gŵr priod a nifer o blant; Mr Hugh Hughes, Penbryn Glas, Nefyn; Mr. William Roberts, 8 Church St., Edeyrn (bachgen 18 mlwydd oed), a John Parry, Rhos, Edeyrn, gwr priod gydag un plentyn.
Daethpwyd a'i weddillion ef adref i'w claddu yn naear Lleyn ddiwedd yr wythnos.
Yn mysg y rhai a achubwyd yr oedd Capten Hugh Roberts, Brynbedw, Edeyrn, meistr y llong Mr. Willie Humphreys, mab Mr Humphreys, Siop Dicks, Pwllheli; a mab i Mr. J. T. Williams, Bodeilias, gohebydd athrylithgar yr "Herald Cymraeg."
Yr Herald Gymraeg 28/08/1917
Suddiad yr Agerlong "Edernian."
Trwy yr hyn y collwyd amryw o forwyr o gymdogaeth Nefyn, yn eu mysg Capt William Griffiths, Bodwyn, Nefyn, yr hwn ar y pryd oedd yn brif swyddog arni. Ei llywydd oedd Capt. Roberts, Edeyrn, yr hwn a achubwyd. Suddwyd hi gan suddiad yn agos i Margate ar ddydd hafaidd o Awst 1917.Daeth y llinellau canlynol i'm meddwl ddechreu nos Iau, Hydref 3ydd, 1918, tra yn eistedd wrth y tân, yn gwrandaw swn y gwlaw a'r, gwynt yn curo fy mwth a minnau wedi methu "mynd i'r seiad." Meddyliwn am fy hogiau, ddau ar y mor, ac un yn filwr yn yr Aifft. Fe oedd - un - John ar y llong Edernian pan y'i suddwyd. Yn wyrthiol bron achubwyd ef. Yn naturiol aeth fy meddwl yn benaf i grwydro at fy hen gyfaill William Griffith, cymeriad caredig, ffyddlon. a thawel, yr hwn oedd yn 54 oed. Gedy weddw a thri o fechgyn. Merch i'r diweddar David Thomas. Botacho Wyn, Nefyn, yw y weddw. Dau eraill o'r morwyr o Nefyn a gollwyd gyda W. Griffith oeddynt Hugh, mab Seth Hughes a'i briod, Brynglas, a John Parry, Saer o Forfa Nefyn. Gedy yntau weddw a phlant.
Dyrys fyd, pa ddyn a ddeall
Dywyll ffyrdd Rhagluniaeth Ior?
Tori tadau, cysgod aelwyd,
Idd eu bedd yn nwfn y mor
Gwneud trwy hynny weddwon ieuainc
Ac amddifaid yn y wlad,
I gyd-wylo dagrau hiraeth
Am swn traed eu diddychwel dad.
O! mor sydyn, mor ddirybudd,
Del awr angau at bob dyn!
Pan oedd haul ar don yn ddisglaer;
Anian fel pe'n boddio'i hun,
Mewn tawelwch a thegeiddiwch,
Safai angau wrth y ddor!
O'r tawelwch, wele ergyd
Agorodd fedd yn nwfn y mor!
Mele'r hen "Edernian" gadarn
Yn ymsuddo ar ei phen,
Darnau o'r llong a'r llwyth yn hedeg
Fel gwenoliaid tua'r nen
Bwriwyd cychod tros ei hochor,
Ebrwydd llanwa'i'r dwylaw hwy,
I'r "propellor" wele'n drifftio
Gwch y mate, nas gwelwyd mwy.
Duw ei hun wyr beth ddigwyddodd
Yn y duaf eiliad hon,
Pan y llyncwyd William Griffith
Gyda'r lleill i fedd y don
Cymorth dyn, nis gallsai estyn
Swcwr, O, mor fyred yw
Braich o gnawd pan delo angau!
Ni cheir cymorth ond o Dduw.
Pan y cofiaf William Griffith
Teimlaf argraffiadau da,
Ar fy enaid megis arogl
Rhos i'm ffroen Orffenaf ha';
Tad gofalus, tyner galon,
Cariai'r aelwyd yn ei fron,
Llongwr medrus, dewr o galon,
Cyfaill tyner bechgyn gweinion,
Amgen dyn ni nofiodd don.
Rhyw ddidanwch i berth'nasau
Ydyw gwylio anwyl rai,
Pan yn mynd i afon angau
Pan yn troedio'i dwr didrai;
Gymaint rhai anwyliaid calon,
Ant yn awr i'w dyfnaf li
Heb un help o law perth'nasau,
Neb wrth law i ddal eu pennau,
Neb ond Un, ein Hiesu ni.
Erys Iesu fyth yn ffyddlon,
Nes na gelyn ydyw Ef.
Nes na mam a nes na phriod
Ydyw cymorth Duw y Nef;
Ymdawelwch, berthynasau,
Nesaf un yw Duw i chwi.
"Tad amddifaid, Barnwr gweddwon,"
Sychwr dagrau mamau tristion,
Dyma'r Graig a ddeil bob lli.
Pistyll. Hydref 3ydd, 1918.