WEDI EI LADD.
Daeth y newydd trist i'r gymdogaeth hon yr wythnos ddiweddaf fod Private Griffith Jones, Rhydygwystl, wedi ei ladd yn Ffrainc. Nid oedd ond 24 mlwydd oed, ac efe oedd yr hynaf o ddeu-ddeg o blant.Yr oedd yn fachgen ieuanc prydweddol, ac yn hoff gan lu o'i gydnabod. Yn yr un frwydr ag yntau syrthiodd ewythr iddo, sef Private Ellis Pugh Williams, Pwllheli, gan adael gwraig a chwech o blant ar ei ôl.
Mae'r teulu hwn wedi dioddef yn erwin oddiwrth effeithiau ofnadwy y rhyfel presennl, a dymunem iddynt bellach bob cymorth i ddal o dan bwysau y brofedigaeth.