NEFYN NEWYDDION GALARUS.
Yn gyfamserol a'r newydd am y Private Richard Roberts, yr oedd y Postman David Jones yn mynd ar ei daith yntau i'r Fron, Nefyn.Pwy ai disgwyliai gyntaf un ar ben ei "steps," ond Mrs Jane Davies, gweddw y diweddar Capten Robert Davies. Disgwyliai yn bryderus am lythyr oddiwrth ei mab Tom G. Davies, yr hwn oedd yn hwylio yn ail swyddog ar y transport Exford, yr hon a ddychwelai yn llwythog o New York.
Estynodd y postman lythyr iddi, ond er ei dirfawr fraw, llythyr ydoedd oddiwrth berchenogion y llong yn hysbysu yn ffurfiol ddigon fod ei mab, Thomas, wedi colli ei fywyd trwy i'r llong gael ei thorpedio. Newydd gwaethaf posibl, tra'n disgwyl y da!
Tranoeth daeth y llythyr a ddisgwyliai oddiwrth ei hanwyl Tom, ond efe nid oedd. Ei oedran oedd deg a'r hugain. Yr oedd yn fachgen caredig iawn.
Cydymdeimlir yn ddwys, a'i anwyl fam, yr hon sydd yn 73 oed, ac wedi gweled a phrofi mwy na'r cyffredin o aml a blin gystuddiau.
Magodd saith o blant, ond y mae wedi gweled claddu pump ohonynt wedi tyfu i oed. Wele eu henwau Peter Davies, oedd yn ail swyddog ar y Barque Queen, boddodd trwy golliant y llong yn y North Sea, flynyddau yn ôl; John, bachgen 19eg oed, fu farw o'r darfodedigaeth yn ei gartref; Mary eto, yn 28, fu farw gartref; David eto, yn 38 fu farw gartref.
Ddiwedd y flwyddyn o'r blaen, bu farw yr hynaws dad, Capten Davies, yn 78 oed. Fel erbyn hyn nid oedd ganddi hi ond Tom "yn gefn," ac yr oedd mewn gwirionedd yn bob peth ellid ei ddymuno. Ond wele y cicaion hwn eto a wywodd! Da genym nad yw yr hen chwaer grefyddol yn myned i ysbryd Jona ,eithr yn hytrach i dymer oddefgar Job.
Wele dystiolaeth y capten o gymeriad teilwng Tom, fel swyddog a dyn :- "Gall fod o ryw ddiddanwch i'w fam i wybod fod ei mhab wedi gweithredu gyda gwrolder mawr. Y mae yn ymarferol wedi aberthu ei fywyd ei hun i geisio achub eraill. Bydd ei goffhad yn anwyl iawn gan y rhai a achubwyd oddiar fwrdd yr Exford fel swyddog gwrol a gwir foneddwr."
Eiddunwn nawdd Duw tros y fam dyner hon, Y mae iddi un ferch, Jane, yn aros gyda hi, yn sengl, ac erys dau fab yn fyw, sef Capten Robert Davies, a William, y ddau yn briod.
Er dued y cymyl gall Mrs. Davies fforddio dweyd eto,
"Y Duw a'm daliodd hyd yn hyn
Am dwg i'r lan i ben y bryn."