MORFA NEFYN ADREF.
Diamheu fod pawb yn falch fel ardal fechan o weled y ddau frawd ieuainc gartref am ychydig ddyddiau, sef y Parch W. Noel Williams. B.A. (Towyn), a Lieutenant J. Alfred Williams, meibion Mr a Mrs Williams. Glan Ogwen, a'r ddau a golwg mor ddysglaer arnynt.Mae yn llawenydd o'r mwyaf genym weled ein bechgyn yn dringo i safleoedd mor ardderchog a dymunwn iddynt bob bendith yn y dyfodol eto.
Yr Herald Gymraeg 07/03/1916
Yr Agerlong North Wales.
Mae perchenogion yr agerlong "North Wales," o Newcastle, wedi anfon i deuluoedd y dwylaw i'w hysbysu fod cwch perthynol i'r llong wedi ei olchi i'r lan yn ymyl Penzance, hefyd gorph y peirianydd. Cafwyd hefyd gyrph amryw forwyr eraill, ar y glanau cyfagos, ond dim arnynt i brofi pwy oeddynt.Ni chlywyd gair yn nghylch yr agerlong er yr adeg y gadawodd Isle of Wight, Hydref 24am.
Cynwysai y dwylaw Cadben G. Owen, Erw Goch, Morta Nefyn; Mr William Williams Glanmorfa, Morfa Nefyn, ac ereill.