MORFA NEFYN ADREF.
Diamheu fod pawb yn falch fel ardal fechan o weled y ddau frawd ieuainc gartref am ychydig ddyddiau, sef y Parch W. Noel Williams. B.A. (Towyn), a Lieutenant J. Alfred Williams, meibion Mr a Mrs Williams. Glan Ogwen, a'r ddau a golwg mor ddysglaer arnynt.Mae yn llawenydd o'r mwyaf genym weled ein bechgyn yn dringo i safleoedd mor ardderchog a dymunwn iddynt bob bendith yn y dyfodol eto.