CWYMP MILWR.
Tachwedd y 6ed, tra yn gwneyd ymdrech i gyrchu ychydig ddwfr er tori syched ei hun, a'i gyd filwyr adfydus yn y trench yn nhueddau Suvla Bay, saethwyd yn farwol y bachgen tirion o Forfa Nefyn, Griffith Williams, mab i Mr William a Mary Williams, Glan Fadryn o'r lle uchod.Trengodd yn y fan. Claddwyd ef gan ei gymrodyr yn y lle.