Yr Agerlong North Wales.

Mae perchenogion yr agerlong "North Wales," o Newcastle, wedi anfon i deuluoedd y dwylaw i'w hysbysu fod cwch perthynol i'r llong wedi ei olchi i'r lan yn ymyl Penzance, hefyd gorph y peirianydd. Cafwyd hefyd gyrph amryw forwyr eraill, ar y glanau cyfagos, ond dim arnynt i brofi pwy oeddynt.

Ni chlywyd gair yn nghylch yr agerlong er yr adeg y gadawodd Isle of Wight, Hydref 24am.

Cynwysai y dwylaw Cadben G. Owen, Erw Goch, Morta Nefyn; Mr William Williams Glanmorfa, Morfa Nefyn, ac ereill.

Yr Udgorn 13/12/1916