YMLADD DROS EU GWLAD.
Mab ydyw y Lance Corpl. E. Morgan Owen, i Mr a Mrs Owen, Glanaber Morfa Nefyn.Ganwyd ef rhyw ugain mlynedd yn ôl. Tyfodd yn ddyn ieuanc hardd o bryd a dilychwyn o gymeriad. Nid cywilydd ydyw ganddo arddel ei grefydd, fel y dysgwyd ef gartref, o dan anfanteision fuasent yn digaloni llawer.
Ymunodd a'r fyddin yn lled gynar wedi toriad y rhyfel allan. Ar hyn o bryd y mae "yn rhywle yn Ffrainc" gydag adran o'r R.W.F. yn "gwneud ei ran" dros ei Dduw ei Frenin a'i wlad.
Y mae ei fam yn adnabyddus fel Mrs Morgan Owen, y gerddores fedrus a swynber, a hithau drachefn yn ferch i Llew Madog. Y mae yntau ei hun yn unawdydd sydd yn debyg o ddod yn lled fuan, os yr arbedir ef, yn deilwng iawn o gario yn mlaen draddodiadau cerddorol ei linach.
Yr Herald Gymraeg 08/02/1916
GWASANAETH COFFADWRIAETHOL.
Nos Sabboth, Mehefin 4ydd, cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol yn Nghapel y Tabernacl, er coffa am Corporal E. Morgan Owen, mab Mr a Mrs Morgan Owen, Glan Aber, yr hwn a gollodd ei fywyd yn Ffrainc beth amser yn ôl.Gwnaed sylwadau pwrpasol iawn gan y gweinidog (y Parch. E. T. Evans). Chwareuwyd "Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn" a'r Dead March ar yr offeryn gan Mr Arthur Roberts, Nefyn.
Heddwch i'w lwch hyd
"Bydd dorau beddau'r byd
Ar un gair yn agoryd"