E J OWEN.

Ganwyd Private E. J. Owen yn Llwyn y Gwalch, Morfa Nefyn, preswylfod ei daid, y diweddar Barch Edward James, Nefyn. Merch hynaf Mr James oedd ei fam, ac y mae ei dad - Mr Richard Owen - Aberdar - yn un o feibion y diweddar Capt Owen Owens, Penrhos, Morfa Nefyn.

Ymunodd a'r R.W.F. rai misoedd yn ôl.

Bu yn Ffrainc yn gwynebu y gelyn, ac y mae yn debyg yr aiff yno eto wedi iddo adennill ei nerth.

Yr Herald Gymraeg 08/02/1916