TRANC MORWYR O NEFYN.
Lladd Dau Frawd.
Dydd Gwener syfrdanwyd ardalwr Nefyn gael y newydd fod dau o'u trigolion wedi eu lladd ac un wedi ei glwyfo yn ddifrifol.Ymddengys fod cwch tanforawl y gelyn wedi tanbelenu eu llong. Lladdwyd dau frawd o'r enwau James Jones, Bodfan, Morfa Nefyn, a Robert Jones, Well Street, Nefyn, y rhai oeddynt yn forwyr ar y llong. Hefyd, clwyfwyd William Jones, LIwyn-non, Nefyn, yn lled ddifrifol. ac y mae efe yn gorwedd mewn ysbyty.
Yr oedd Henry Williams, Box, Nefyn, hefyd yn un o'r dwylaw, ond achubwyd ef a chyrhaeddodd adref ddiwedd yr wythnos.
Mae nifer luosog iawn o drigolion Nefyn a'r cylch wedi colli eu bywydau er dechreuad y rhyfel, a chydymdeimlir yn ddwfn a'u teuluoedd. Gedy y brodyr Jones wragedd a phlant i alaru ar eu hol.
Yr Herald Gymraeg 15/05/1917
Llys Sirol Pwllheli.
Cynhaliwyd ddydd Gwener, gerbron y Barnwr W. Evans.Gofynodd Mrs Jones, priod Mr. James Jones, Bodfan, Morfa Nefyn, yr hwn a foddwvd gan longau tanforawl y gelyn, am i'r Barnwr erchi iddi gael, 50p. i'w llaw o'r 300p. iawndal a dalwyd i'r llys.