CYDYMDEIMLAD.

Cydymdeimlwn fel ardal รข Mr a Mrs Richard Griffith, Old Post Office Terrace, Abererch, yn y brofedigaeth lem o golli eu hanwyl fab ar faes y gwaed yn Ffrainc.

Yr oedd yn ddyn ieuanc, dymunol ac yn uchel ei barch trwy'r holl ardal.

Yr Herald Gymraeg 12/11/1918


Tranc ein Bechgyn.

Derbyniodd Mr a Mrs Richard Griffiths, Old Post Office Terrace, Abererch, hysbysrwydd fod eu mab y Preifat Grffith Griffiths wedi ei ladd yn Ffrainc.

Yr Udgorn 13/11/1918