GWASANAETH COFFA.
Ddydd Sul cyn y diweddaf cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol am David Roberts, mab Mr a Mrs William Roberts, Tynlon.Y mae 51 o ddynion ieuainc ein plwyf yn y fyddin, ond dyma'r cyntaf i roddi ei fywyd dros ei wlad.
Flynyddau yn ôl ymfudodd David Roberts i Canada a daeth drosodd gyda'r fintai gyntaf ac aeth i Ffrainc a chymerodd ran yn rhai o'r brwydrau caletaf gan brofi ei hun yn filwr dewr nes y cwympodd yr wythnos ddiweddaf o Dachwedd.
Cymerwyd y gwasanaeth gan y Rheithor (y Parch Hugh Williams) yr hwn a wnaeth sylwadau pwrpasol ar fywyd ac ymroddiad yr ymadawedig. Canwyd: emynau pwrpasol i'r amgylchiad, a chwareuodd Mrs Williams, y Rheithordy, y "Dead March," ar y diwedd.