EBYRTH Y RHYFEL FAWR.
Drwg genym am brofedigaeth lem Mr. a Mrs. Richard Jones, Alpha House. Maent wedi colli eu mab, Private Robert, Jones, yr hwn oedd yn ymladd yn Ffrainc. Yr oedd Private Jones yn perthyn i'r Fyddin Canadaidd.Hefyd daeth gair fod Private Moses Griffiths, mab Mr William Griffiths, Bryn Dirwest, a chefnder i Private Robert Jones, ar goll ar ôl brwydr yn Ffrainc. Daeth gair oddiwrth ei gyfaill yn dweyd fod Private Griffiths wedi ei gymeryd yn garcharor gan y gelyn.
Cydymdeimlir yn fawr a'u rhieni a'u perthynasau yn eu galar am danynt Mae'r ardal mewn cydymdeimlad llwyr a'r teuluoedd gofidus hyn ac yn dymurio iddynt bob nerth i ddal y brofedigaeh.