COLLI MILWR DEWR.
Dydd Sadwrn derbyniodd Mr. a Mrs William Williams, Isallt, Efailnewydd, y newydd prudd fod eu mab, Private Richard Williams o'r 14th Batt. R. W.F., wedi ei ladd yn Ffrainc.Yr oedd y teulu yn bryderus iawn yn ei gylch ers tro gan na chlywsant air am dano ers chwech wythnos.
Dywedir ei fod yn un o'r milwyr dewraf ac iddo un tro neidio i warchffos y gelyn a chymeryd hanner dwsin o'r milwyr gelynol yn garcharorion, am yr hyn yr argymhellwyd ef i dderbyn y D.C.M.
Mae ei frawd ieuengaf. Private W. J. Williams, gyda'r Royal Flying Corps yn Ffrainc.
Yr Herald Gymraeg 22/08/1916
NEWYDD TRIST O'R FFRYNT.
Cafodd Mr a Mrs Williams, Isallt, hysbysrwydd yr wythnos ddiweddaf yn dweyd fod eu mab, Richard Williams, wedi ei ladd yn Ffrainc.Rhagfyr diweddaf yr aeth drosodd yno.
Mae cydymdeimlad yr ardal yn ddiau a'r teulu yn eu profedigaeth lem ac anisgwyliadwy.