CWYMPO AR FAES Y FRWYDR.
Derbyniodd Mr. a Mrs. Jones, Ty Capel, Llannor, y newydd trist fod eu mab (Pte. R. H. Jones), wedi ei ladd yn Ffrainc, a'i gladdu yno.Yr oedd Private R. H. Jones yn ddyn ieuanc tawel o gymeriad, ac yn boblogaidd gan bawb a'i hadwaenai. Y mae brawd arall i'r ymadawedig yn nghanol yr ymgyrch yn Firainc.
Nawdd y nef fo dros y teulu oll, yn ei profedigaeth chwerw, o golli un oedd mor anwyl ganddynt.