NEWYDD PRUDD.

Yr wythnos ddiweddaf daeth gair i'r ardal yn hysbysu fod Pte. Owen Jones, cigydd, wedi syrthio'n aberth i'r gelyn yng Nghanaan.

Gŵr ieuanc tawel, a heddychol oedd Jones, ac y mae'n chwith iawn colli blodeuyn mor brydferth mor gynar.

Cydymdeimlir yn ddwfn a'i briod a'i blant ac hefyd ei rieni, Mr a Mrs Griffith Jones, yn eu galar dwys a chreulon.

Boed iddynt dderbyn pob cymorth yn awr eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 22/01/1918