GWRON ETO WEDI SYRTHIO.

Boreu dydd Iau taenodd prudd der dros yr ardal gan y newydd fod Private Griffith Jones, Ty Bont, Llanor, wedi ei ladd yn yr ymladd yn yr Aifft.

Yr oedd Jones yn 35 mlwydd oed a gedy weddw a chwech o blant i alaru ar ôl tad caruaidd a hoffus.

Mae ef yn ymladd o'r cychwyn, ac y mae tri brawd arall iddo hefyd yn ymladd o'r cychwyn. Mae dau ohonynt mewn ysbyty yn y wlad hon. Meibion ydynt i Mr a. Mrs Jones, Tai Cochion Terrace, Pwllheli.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oll yn eu galar.

Yr Herald Gymraeg 27/11/1917