Griffith Evans 1881-1917.
Griffith Evans, Mela wedi marw yn y College Military Hospital.Roedd o yr ail o bedwar plentyn Capten David Thomas Evans a Jane ei wraig, a fu'n cadw'r Mitre ym Mhwllheli tan 1895 ond a oedd hefyd wedi prynu Mela, plwyf Llannor ym mis Ebrill 1891.
Capten Evans, Mela oedd y dyn a gododd Britannia Terrace yn Llannor ac roedd yn fab i Ellis ac Elizabeth Evans, Allt Felen, Llannor.
Roedd brawd hynaf Griffith Evans, sef Dr Ellis Thomas Evans (1878-1916) wedi marw flwyddyn ynghynt, ym mis Ebrill 1916, yn dilyn damwain efo'i foto beic ar bont Llannor, ger Tŷ Isaf.