ER COF.
Deigryn hiraeth ar ôl Preifat Charles Griffith, Bryngoleu Terraoe, Plasgwyn, Pwllheli yr hwn a syrthiodd yn Ffrainc. tra 'n ymladd dros ei wlad. Hydref 12, 1917.Cyfansoddwyd gan Mr. Charles, Jones, Tynycoed. Rhosfawr :
Fe gafwyd bachgen annwyl,
Ar aelwyd lân a chlyd.
Ca'dd dad a mam i'w fagu,
A'i gychwyn yn y byd;
Fel egin hardd cychwynai,
Ei yrfa fore'i oes,
Fe hoffodd pan yn ieuanc
Y Gŵr fu ar y Groes.
Bu'n ffyddion yn addoli
Yng nghapel Tyddynshon,
Yn wylaidd ymostyngai
O flaen gorseddfainc Ion;
Ufudd-dod roes Charles Griffith
I Frenin Nef a llawr,
Cysegrodd fore'i fywyd
I Grist ei athraw mawr.
Cychwynnodd oddi cartre
I'r gâd cyfeiriai'i gam
Ffarweliddd a chyfeillion,
Ysgydwodd law a'i fam;
Er nad oedd sicrwydd ganddo
Cael dod i'w gartre'n ôl,
Yn wrol ymadawodd
Gan adael cynnes gol.
Er anfon taer weddiau.
At Iesu ar ei ran
I'r beddrod aeth Charles Griffith,
Tra'n ymladd dros y gwan
Mae heddyw yn y nefoedd
Lle nad oes neb yn drist,
Fe aeth o faes oyflafan,
Yn berl i Goron Crist.