CWYMPO YN FFRAINC.
Ymhlith y miloedd wele Robert Jones, Tanygreigwen, wedi disgyn. Daeth y newydd prudd i'r fam weddw a llesg ar y Llungwyn; a throdd y Llun yn ddu a galarus.Clwyfwyd ef ddwywaith o'r blaen, ond marwol fu'r clwyf hwn iddo. Syrthiodd ar y 10fed o Fai.
Chwith iawn yw meddwl am Mynytho heb Robert, Tanygreigwen. Bachgen a hoffid gan bawb, un siriol bob amser. Torrai ei ysbryd allan yn wastad mewn can. Nid oedd fawr un yn fwy poblogaidd nag ef, ac arwyddion eglur y buasai yn ddefnyddiol iawn yn ei fro pe buasai wedi cael ei arbed.
Cafwyd llythyr dwys oddiwrth y caplan yn hysbysu iddo gael ei gladdu yn barchus a bod mangre ei fedd wedi ei nodi allan. Tystiwyd ei fod yn filwr dewr, yn uchel ac annwyl gan ei gatrawd, yn gymeriad prydferth iawn. Yr oeddym yn gwybod hyn, ond da gennym glywed i Bob gadw yr un cymeriad hyd y diwedd.
Caled iawn i'r fam weddw ydoedd dal yr ergyd hon. Yr oedd pryder y blwyddi diweddaf wedi dweyd yn erwin arni. Aelod ffyddlon o Eglwys Horeb (A.) ydoedd.
Prysured y dydd y tawelo'r magnelau uwch mangre gysegredig ei fedd yn naear Ffrainc.
Yr Herald Gymraeg 28/05/1918
ROBERT JONES. TANYGREIGWEN, MYNYTHO.
Derbyniasom y newydd prudd o Gymru yr wythnos hon ana farwolaeth ein nai, fab chwaer, yn Ffrainc, sef Robert Jones, Tanygreigwen, Mynytho. Clwyfwvd ef yn anreisol mewn brwydr ar y 10fed o Fai.Cafodd ei glwyfo ddwy waith yn flaenorol, ond cafodd wellhad i'r fath raddau fel ag i'w alluogi i ymladd a'r gelyn drachefn. a'r diwedd fu, iddo syrthio yn aberth i'r cledd yn ddyn ieuanc 25ain oed ar y dyddiad uchod:
'Roedd natur yn gwenu, a'i blodau cain
Yn gwrlid prydferth fel llian maim
O amgylch y ffosydd, yn Ffrainc y dydd
Y daeth ryw angel i roi yn rhydd
Ein Robert bach, 'roedd ef er's tro
Fel pe'n hiraethu am nefol fro;
I gael gorphwys o dwrf y byd.
O swn y brwydro, a'r gwae i gyd.
Caiff bellach orphwys yn naear Ffrainc
Hyd nes y clywir yr hyfryd gainc
Yn galw arno i godi fry,
O wely o waed i'w gartref cu:
I fyth fwynhau y tragwvddol hedd,
A swynion Mai ar ei siriol wedd,
Ni welir craith, er ei fynych glwy;
Ac enw gwell a fydd iddo mwy.
Ei ewyrth, John T. Jones.
Mehefin 12, 1918.