MYNYTHO WEDI EI GLWYFO.
Gofidus genym ddeall fod Gunner Richard Hugh Morris, mab Mr a Mrs William Morris, Gorphwysfa. Mynytho, wedi ei glwyfo yn ystod yr ymladd yn Ffrainc.Perthynai i'r machine gun section.
Yr Herald Gymraeg 22/05/1917
WEDI CWYMPO YN Y RHYFEL.
Dydd Mawrth derbyniodd Mr a. Mrs William Morris, Gorphwysfa, Mynytho, y newydd prudd fod eu mab, Gunner Richard Hugh Morris, wedi marw o'i glwyfau mewn ysbyty yn Ffrainc. Clwyfwyd ef yn ddifrifol pan yn ymladd gyda'r machine guns, ac anfonodd amryw lythyrau gartref i geisio cysuro ei deulu trallodedig.Yr oedd yn fachgen ieuanc hoffus a rhirweddol dros ben, ac yn boblogaidd iawn ymysg ei holl gydnabod. Ond rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ei wlad pan yr oedd yn anterth ei ddefnyddioldeb a'i nerth, sef 23 mlwydd oed. Yr oedd o dueddfryd grefyddol iawn, ac yn un o'r llythyrau olaf a ysgrifenodd i'w fam cyn ei glwyfo dyfyna'r emyn hwnw :-
Ni phery ddim yn hir
Y ddu dymhestlog nos,
Ni threfnwyd oesoedd maith
I neb i gario'r groes.
Mae'r hyfryd wawr sy'n oodi draw
Yn dweyd fod boreu braf gerllaw.
Cydymdeimlir yn fawr a'r rhieni galarus a'r brodyr a'r chwiorydd yn eu mawr drallod.
Yr Herald Gymraeg 29/05/1917
WEDI EI LADD.
Dydd Mawrth derbyniodd Mr a Mrs William Morris, Gorphwysfa, y newydd prudd fod eu mab, Gunner Richard Hugh Morris, wedi marw o'i glwyfau mewn ysbyty yn Ffrainc.Clwyfwyd ef yn ddifrifol pan yn ymladd gyda'r machine guns, ac anfonodd amryw lythyrau gartref i geisio cysuro ei deulu trallodedig.
Yr oedd yn fachgen ieuanc rhinweddol iawn, ac yn boblogaidd yn mysg ei gydnabod. Ond rhoes ei fywyd i lawr yn 23 mlwydd oed. Yr oedd o dueddiadau crefyddol iawn.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu a'r perthynasau yn eu galar am dano.
Yr Udgorn 30/05/1917
HUMBOLDT PARK. CHICAGO. ILL.
Gan Wm. Ishmael Jones.
Ychydig amser yn ôl, daeth newydd pruddaidd i Mr. Wm. Morris, 3311 Pearce Ave., yn ei hysbysu am farwolaeth Richard Hugh, ei frawd ieuengaf, 23 oed, ar faes y frwydr rywle yn Ffrainc. Clwyfwyd ef yn un o'r brwydrau, a phrofodd yr archollion yn angeuol iddo yn mhen dau ddiwrnod.
Brodor o Mynytho, ger Pwllheli, G. C., ydyw Mr. Morris, a daeth efe a'i briod i'r ddinas hon o Toronto, Canada, ychydig amser yn ol.
Mae cydymdeimlad cvffredinol a'r oll yn eu hiraeth a'u galar.