MYNYTHO MARW.
Tarawyd yr ardal a braw nos Fercher diweddaf pan dderbyniwyd y newydd trist am farwolaeth Pte. Edward Davies Jones, R.W.F. mab-yng-nghyfraith Mrs Jones, Tynewydd (ger Nanhoron).Ymddengys ei fod yn myned dan driniaeth dost yn un o ysbytai Croesoswallt, pan yr ehedodd ei ysbryd ymaith. Yr oedd yn aelod ffyddlawn o eglwys M.C. y Nant, yn aelod o'r Ysgol Sabbothol, ac yn dilyn y cyfarfodydd eglwvsig yn gyson. Yr oedd yn un o feibion harddaf a mwyaf cymeradwy yr ardal. Gedy weddw i alaru ar ei ôl, gyda'r hon a'r teulu trallodus y llifa cydymdeimlad yr ardal.
Nawdd y Nef fo drosti a chaffed nerth i ofalu am ei mam, yr hon sydd orweddiog er tua deuddeng mlynedd bellach.
Cymer yr angladd (preifat) le ddydd Sadwrn ym mynwent eglwys Llangian.