CWYMP MILWR.
Daeth y newydd trist i'r ardal hon o Ffrainc, yn hysbysu am farwolaeth Sergeant E. Jones, Tan y ffynon, mab hynaf Mr. a Mrs. J. Morris Jones (Llew Soch).Derbyniodd y teulu y llythyr canlynol oddiwrth ei swyddog Chwefror 2ain, 1917. B.E. F., Ffrainc.
Anwyl Mr. Jones.
Gyda'r gofid a'r cydymdeimlad dyfnaf y mae genyf i'ch hysbysu am gwymp eich mab, 11208 Sergeant E. Jones. Aeth ef a swyddog arall allan ar patrol oddeutu wyth o'r gloch y nos, Chwetror 19-20. Bu iddynt weithio eu ffordd hyd oeddynt o dan y German wire pryd y canfyddwyd hwy gan y gelyn, y rhai a agorasant dan arnynt. Bu i'ch mab gael ei daraw, a bu farw yn uniongyrchol, a gall fod o gysur i chwi mai ychydig ddarfu ddioddef.
Sergeant Jones, oedd fy mhlatoon sergeant, ac fel y cyfryw gallaswn ddibynu arno bob amser, a chenyf yr ymddiriedaeth lwyraf ynddo y cariai allan bobpeth i berffeithrwydd, Yr oedd yn filwr da, ac yn ddyn gwrol, ac yn boblogaidd gyda'r dynion a'r swyddogion. Y mae ei farw yn golled i'r cwmni a'r bataliwn.
Derbyniwch ein cydymdeimlad yn eich colled drom. Bydded i Dduw eich cynorthwyo i ddal y ddyrnod drom, gan gofio i'ch mab farw yn nghyflawniad ei swydd, sydd bob amser yn anhawdd a pheryglus. Byddaf bob amser yn barod i roddi unrhyw fanylion pellach fydd yn angenrheidiol.
Y r eiddoch yn gywir,
A. PHILLIPS, 2nd, Lieut.
Cydymdeimlwn yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw. Yr oedd Serjeant Jones, wedi enill y D.C.M. a'r Military Medal, a sicr genym pe cawsai ei arbed y clywsid llawer mwy am dano.
Ymunodd a'r fyddin bedair blynedd yn ôl, aeth drosodd i Ffrainc, ar ben ei flwydd yn 18 oed, Awst 4ydd, 1914.
Yr Udgorn 28/03/1917
MYNYTHO TLYSAU'R ARWR.
Da gennym allu dweyd wrth luaws darllenwyr yr "Herald," yn neilltuol hen gyfeillion cynnes galon y diweddar Sergeant Evan Griffith Jones, D.C.M., o Tynyffynon, Mynytho, yr hwn a gwympwyd ar faes y rhyfel yn Ffrainc fod ei anwyl dad a'i fam, Mr a Mrs Jones, wedi derbyn oddiwrth yr awdurdodau milwrol Y Mons Star a'r Military Medal, a ennillodd am ddewrder.Gofidiwn na chafodd Sergeant Jones fyw i dderbyn y tlysau hyn. Bu raid gadael hynny i'r rhai anwylaf oedd ganddo yn y byd, a gwyddom y cedwir hwy yn ofalus ganddynt a'r perthynasau ar eu hol.
Ac er y daw adeg pan y bydd i'r Mons Star ddiddanu, a'r Military Medal ymgolli a pheidio a bod gan dreulfawr olwynion amser, eto, yr arwriaeth a'u hennillodd a erys oes y byd.