DROS EU GWLAD.

Mab i Mr a Mrs Griffith, Isfryn. Mynytho (Glansoch. Llangian. gynt) ydyw Rifleman Harry Griffith.

Yr oedd yn gwasanaethu fel asiedydd yn Lerpwl pan yr ymunodd a'r 1-5ed Kings (Liverpool Regiment). Aeth trosodd i Ffrainc yn Chwefror. 1915, ac y mae newydd fod adref am ychydig seibiant.

Mae wedi cymeryd rhan mewn llawer i ysgarmes ffyrnig gyda'r gelyn. Bu mewn ysbyty yn Rouen unwaith.

Yr Herald Gymraeg 14/03/1916