ABERDARON NEWYDD TRIST.
Dydd Mercher. derbyniodd Mr. David Williams, Penybryn Bach, y newydd trist fod ei fab Mr Robert Williams, wedi marw ac wedi ei gladdu yn Mount Hermon Cemetery, Quebec, ar y 24ain o Hydref.Gwasanaethai fel quartermaster ar yr agerlong Bohemian, perthynol i'r Leyland Lines. Derbyniodd Mr. D. Williams lythyr oddiwrth y cwmni yn flaenorol yn ei hysbysu fod ei fab wedi ei adael mewn ysbyty yn Quebec ar y 14eg o Hydref yn dioddef oddiwrth influenza a pneumonia. Roedd yr ymadawedig oddeutu 20 oed ac yn dra hoffus gan lu o'i ardal.
Cydymdeimlwn yn fawr a'r teulu oll yn eu profedigaeth chwerw.