NEWYDD TRIST.
Dydd Iau derbyniodd Mrs Jane Ellis. Lliidiart y Dwr (ger Nanhoron) y newydd trist fod ei mab Gunner William G. Ellis, R.G.A., 26ain oed, wedi ei ladd yn Ffrainc ar y 17eg o'r mis hwn.Gwelsom lythyr caredig ddaeth oddiwrth y Gaptan Roland H. Streatfield, C.F., i Mrs Ellis, yn yr hwn y dywed :
"Your son was one who quietly did his duty in the face of the danger - a true hero like so many here of whom the world knows nothing. Faithful unto death."
Claddwyd ef ddydd Gwener diweddaf wrth ochr un o'i gyfeillion, yn ngwlad yr estron, a'r Sabboth diwethaf rhoddwyd croes hardd ar ei fedd gan ei gyfeillion.
Cydymdeimlir yn fawr a'i fam weddw, yr hon sydd yn orweddiog era amser bellach.
Yr Herald Gymraeg 29/05/1917
NEWYDD TRIST.
Dydd lau derbyniodd Mrs. Jane Ellis, Llidiart y Dwr, y newydd trist fod ei mab, Gunner William G. Ellis, R.G.A 26ain mlwydd oed, wedi ei ladd yn Ffrainc.Claddwyd ei weddillion yn nhir Ffrainc, wrth ochr un o'i gyfeillion, a rhoed croes hardd ar ei fedd.
Cydymdeimlir yn fawr ai fam weddw, yr hon sydd yn wael er's tro bellach.