MILWR O LEYN WEDI EI LADD.
Tystiolaeth Uchel i'w Gymeriad.
Gyda gofid y deallwn i'n cyfaill dymunol, Private Wm. Henry Williams. Penlon. Cilan. Abersoch gyfarfod a'i ddiwedd tra yn gwasanaethu fel milwr yn Ffrainc. Ymunodd a'r Fyddin yn mis Medi 1914.Yr oedd Willie yn un o'r bechgyn mwyaf tawel a charedig yn yr ardal. Byddai bob amser yn hoffi cwmni'r pur a'r da. Ni cheid ef ar gonglau'r heolydd. yr oedd ôl cwmni Duw ar ei fywyd gartref a chai fwy o flas ar gwmni ei "Dad Nefol" yn y trenches. Ysgrifenodd amryw a lythyrau gartref, ac y mae ei ddull o gyfeirio at ei "Dad Nefol" yn dangos ei ffydd a'i ymlyniad angerddol ynddo. Yr oedd Willie y mwyaf anhebyg i wneyd milwr yn ein syniad ni, ond ymunodd ac yr oedd yn benderfynol o wneyd ei orau yn erbyn gormes a thrais ac fel y dywedai ef, "Ymddiried y canlyniadau i'w 'Waredwr' anwyl." Ni ddeuai gair amhur dros wefusau ein cyfaill a gofid i'w galon fyddai clywed eraill yn arfrr geiriau anweddus. Ar ôl cael y newydd trist am ei farwolaeth da oedd genym gael tystiolaeth rhai a'i hadwaenai am gymeriad ein brawd. Byr fu ei daith yma, a bu farw pan yn 22 mlwydd oed.
Derbyniodd Mr a Mrs Williams y llythyr canlynol oddiwrth y Parch D. Cynddelw Williams (Captan 10fed R.W.F.) 27 Chwef 1916.
Anwyl Mr a Mrs Williams,
Teimlaf y dylwn anfon gair atoch yn nglyn a'ch profedigaeth o golli eich anwvl fachgen. Preifat Wm. H. Williams. Pe bawn wedi gwasanaethu fel capian yn ei angladd, byddai yn perthyn i mi ysgrifenu. Ond gan iddo gael ei ddwyn i'r ysbyty ar ôl ei glwyfo, y caplan yno fydd i ofalu at hyn. Ond mae yn chwith genyf ei fod wedi ein gadael
Nid wyf yn cofio ei gyfarfod heb gael gwen o groesaw ganddo. Roedd yn gymeradwy iawn gan bawb a'i hadwaenai. Nid oedd yn un wnai gam a neb. Ond gwnai filwr da. Cofiaf yn dda un tro pan eithum drwy'r trenches mor hyderus yr oedd efe yno yn gwylio. Deallaf ei fod yn meddwl am ei fam pan yn cael ei gario i lawr ar ôl ei glwyfo, ac am iddi gael gwybod ei fod wedi gwneyd ei oreu. Ceisiwch ymostwng i'r oruchwyiaeth.
Byddaf yn teimlo weithiau fod yr Arglwydd yn gwybnd pwy i alw. Nid oes betrusder ynof nad oedd eich mab yn un o'r rhai addfwyn hyny ag sydd yn hoffus yn nghyfrif ein Gwaredwr. Na thristewch fel rhai heb obaith; bu farw yng ngwasanaeth ei wlad, yn brwydro ym mhlaid cyfiawnder a'i ysbrvd yn argraphu ar ei gydnabod ei fod yn un o'r plant.
Derbyniwch fy nghydymdeimlad dwys. Hyderaf y caf ddod rhyw dro eto i daith Llanengan a'r Cilan; ac y caf eich gweled. Ymgysurwch yr Arglwydd sydd yn llywodraethu, ac fe gawn ein bendithio o ymostwng iddo.
Yr eiddoch yn bur,
D. CYNDDELW WILLIAMS (Captan 10fed R.W.F.)
P.S. Dymuna swyddog o'i company. Capten Griffiths, sydd yn awr yn fy ymyl, ddweyd fod eich mab yn un o'r milwyr mwyaf siriol a'i fod yn ddwfn iawn yn serch y bechgyn a gyda'r swyddogion, hefyd, yn hoff iawn ohono.
Dyma fel yr ysgrifena y Rhingyll E. Roberts. B Coy. 10fed Fataliwn Royal Welsh Fusiliers Chwefror 24.
Anwyl Mr Williams,
Mae yn bur ddrwg genyf gofnodi marwolaeth eich mab William, ond ei ddymuniad ef ydoedd cyn iddo gael ei gymeryd ymaith oddi wrthym. Gofynodd a fuaswn gystal ag anfon gair bach at ei fam a dweyd wrthi ei fod wedi gwneyd ei orau hyd y munyd diweddaf. Y mae wedi cael ei gladdu yn barchus. Gellwch fod yn dawel ar hyny beth bynag.
Gallaf ddweyd ei fod wedi byw bywyd rhagorol ac mi aeth i'w ddiwedd tra yn gwylio y gelyn.
Hyn yn fyr, yr eiddoch,
Sergt. E. ROBERTS.
P.S. Roeddwn wrth ei ymyl pan y cafodd ei daro gan ddarn o shell, ac mi wnaethom ein goreu iddo yn mhob modd, ond bu farw heb ddim poen yn y byd.
Mae pob un o'r company yn gyru i chwi ei gydymdeimlad dyfnaf ar yr achlysur o golli Willie, yr hwn oedd yn boblogaidd dros ben gyda phawb ac yn fachgen dewr. - E.R.
Yr Herald Gymraeg 14/03/1916
LLANENGAN ER COF.
Am William Henry Williams, mab William a Laura Williams, Penlon, Cilan, yr hwn aberthodd ei fywyd ar faes y frwydr yn Ffrainc :-Fe ddaw'r gwcw las ei haden
Gyda hyn i goed ein bro,
Hon ni pheidiodd a dychwelyd
I Lanengan yn ei thro.
Ond ni ddychwel William Henry
I Benlon, ei aelwyd fad;
Fe aberthodd gyfleusterau
Bore bywyd a'i fwynderau,
Draw ar allor serch ei wlad.
Mwyn dy gofio William Henry
Pan yn llon, fachgenyn mad,
'N dringo'r llethrau tua Chilan
'N ysgafn fron yn llaw dy dad,
Yno'n wylaidd ddweyd dy adnod,
Dysgu'r gan am Galfari;
Yma megaist, fachgen hylon,
Nerth i dywallt gwaed dy galon
Dros iawnderau'th wlad a bri.
Gwn na weli fryniau Cymru
A'i baradwys maboed gwyn,
Ond ar lanach, tecach bryniau
Y mae'th gartref erbyn hyn;
Sain y gongwest ar Galfaria
Dery ar dy sanctaidd glyw;
Rhodio wnei ymmro angylion,
Dan gysgodion Rhosyn Saron
Lanau heirdd afonydd Duw.
Huno 'rwyt yn naear estron-
Na nid daear estron mwy-
Gwaed ei bachgen hoff gysegrodd
Ffrainc i'th riaint trwm eu clwy',
Os na chaiff dy chwaer a'th frodyr
Blannu blodau ar dy fedd,
Gan dy fro cei golofn arwr
Ddadorchuddia rhyw orchfygwr
Pan wel Duw roi i ni hedd
MARY GRIFFITH - Tyddyntalgoch.