NEWYDD TRIST.
Ddiwedd yr wythnos cyn y ddiweddaf cafodd Mr. Humphrey Roberts, Meirion View, Bwlchtocyn, lythyr o Ffrainc yn hysbysu fod ei fab, Lewis John Roberts, wedi colli ei fywyd, neu yn hytrach, wedi rhoddi ei fywyd i lawr dros ei wlad.Yr oedd efe yn perthyn i'r R.W.F., ac yn y fyddin er's dwy flynedd, ac wedi bod yn Ffrainc am chwe' mis, gyda'r canlyniad gofidus uchod.
Bachgen a gair da iddo gan bawb o'i gydnabod oedd Lewis, a diau genym fod hyn yn gysur mawr i'w rieni a'r brodyr a'r chwiorydd yn y brofedigaeth alaethus hon. Mae cydymdeimlad cyffredinol yr ardalwyr a'r teulu.
Hyderwn y bydd hyn yn help i ddal yr ergyd drom.
GWILYM.