NEWYDD PRUDD.

Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr a Mrs Williams, Plas lol, y newydd prudd fod eu mab, Pte. John Williams, wedi ei ladd yn yr ymosodiad mawr yn Ffrainc.

Perthynai i'r 14th Batt. R.W.F. Yr oedd yn Ffrainc ers blwyddyn a hanner. Nid oedd ond 22 mlwydd oed.

Cydymdeimlir yn ddwfn a'i rieni a'r teuluoedd oll yn eu dirfawr alar.

Yr Herald Gymraeg 16/04/1918