CWMPO YN Y FRWYDR.
Mae genym y gorchwyl galarus o gyhoeddi cwymp ein cyfaill ieuangc, y Gunner Lewis Pughe, R.G.A., ar faes y frwydr yn Flanders. Efe oedd unig fab yn awr yn fyw i'r Police Sergeant William Pughe a'i anwyl briod, Mrs Pughe, Penybryn, Abersoch.Cyn iddo ymuno a'r fyddin ddwy flynedd yn ôl pan yn 22 oed, yr oedd yn aelod o Heddlu Lerpwl.
Ysgrifenna ei Battery Sergeant Major at ei rieni :-
"Diau eich bod wedi clywed am farwolaeth yn y frwydr ddiweddar eich anwyl fab, yr hwn roes ei fywyd i lawr dros ei wlad. Er ei fod yn loes drom i chwi teimlaf yn sicr y gellwch fod yn falch o'i ddiwedd anrhydeddus, gan iddo gyfarfod a'i ddiwedd fel milwr a dyn ieuanc y mae y wlad yn falch o hono, er yn galaru ei golli.
Yr oedd yn un o'r gunners goreu dan fy awdurdod. Yr oedd bob amser yu ewyllysgar barod, yn weithiwr rhagorol ac yn wir foneddwr yn ei holl ffyrdd. Yr oedd yn hynod hoffus gan ei gydfilwyr, ac erys ei golli i chwi yn golled i'r fyddin. Nid oedd ond newydd ddychwel o orphwys a ennillodd trwy lafur caled a chymeriad rhagorol. Yr oeddym ar y pryd yn tynu ymlaen i erlyn yr Hun, ac yr oedd eich bachgen anwyl yn nghanol yr ymgyrch, pan y daeth darn o shrapnel i'w lorio i lawr a rhoddi iddo ei ddymuniad o gael marw yn yr harness.
Mae cydymdeimlad pawb ohonom yn lawr yn eich profedigaeth chwerw wedi colli mab a milwr dewr. Gobeithiwn y bydd amser a Thad y trugareddau yn gwella'r hiraeth trist a ddioddefwch yn awr. Mae ef wedi ein rhagflaenu ond bydd enw Lewis Pughe yn aros yn ein cof fel un o'r bechgyn goreu a fu genym yn ein rhengoedd.
Yr eiddoch yn gywir,
P. A. KAY (Battery Sergeant- Major)."
Mae'r boll ardal mewn cydymdeimlad a'r teulu galarus.