LLANENGAN MARW.
Brawychwyd trigolion Lleyn, pan ddaeth y newydd am farwolaeth sydyn y brawd ieuanc ac anwyl, Thomas Evan Parry. Tanrallt House, Llanengan a 77 Poulton Road, Seacombe.O'r braidd y gallai neb gredu fod ein cyfaill anwyl wedi ein gadael. Ym mis Chwefror ymunodd a'r Fyddin, ond nid o'i fodd, ac yn mhen tair wythnos torodd i lawr.
Cymerwyd ef yn wael yn ei lety a symudwyd ef i Ysbyty Palm Grove, Birkenhead ac oddiyno drachefn symudwyd ef i ysbyty arall. 'Roedd yn fachgen ieuanc hoff a siriol a'i rodiad yn hardd.
Yr oedd yn hynod o grefyddol, ac yn un ag oedd yn cynyddu mewn gwybodaeth a deall. Roedd byw yn swn iaith ei gyd-filwyr yn tori ei galon. Gwelodd Duw yn dda ei gymeryd ef Ato. Dioddefodd dair wythnos o gystudd yn dawel ac amyneddgar a bu farw a gwên y Nefoedd ar ei wyneb Mawrth 31ain, yn yr oedran cynar o 24.
Aethpwyd a'r corph i'r orsaf mewn elor-gerbyd. Yn dilyn yr oedd chwech o filwyr, yna y teulu a blaenariaid ac aelodau eglwys Liscard Road, lle roedd y brawd anwyl yn aelod gweithgar a ffyddlon, a chyrhaeddwyd gartref erbyn saith o'r gloch nos Lun. Dydd Mercher daeth torf luosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'r Cristion gloew. Gweinyddwyd gan y Parch H. D. Lloyd. a rhoddwyd ef orphwys yn mynwent y Bwlch.
Efe yw yr unig un a ymunodd o Eglwys y Bwlch, a bydd ein coffadwriaeth yn felus amdano. Bydded bywyd gwyn Thomas Evan yn esiampl i fechgyn ieuainc Llanengan fel y byddo eu diwedd hwynt fel yr eiddo yntau. Gweithiai cyn ymuno fel saer coed gyda Mri. McDonald a Rally. Wallasey. Duw o'i ras a roddo nerth i'r plant amddifad hyn yn y brofedigaeth hon eto.
Nid oedd ond ychydig fisoedd er pan fu farw ei fam.
Heddwch i'w Iwch.