CWYMPO AR FAES Y GAD.
Ymdaenodd ton o dristwch dros y cylch hwn ar dderbyniad hysbysrwydd am farwolaeth Private John Davies, ail fab Mr. W. G. Davies, Glan Dulyn, a Private William Jones,, mab Mr. John Jones, Castell, Cilan, ar faes y frwydr yn Ffrainc.Yr oedd y blaenaf yn gysylltiedtg a'r Durham Light Infantry, ac wedi gweled brwydro yn y Dardanelles ac yn Ffrainc.
Yr oedd Private William Jones ynglyn a'r R. W.F., a chymerodd ran mewn amryw wrth ymosodiadau.
Teimlir chwithdod mawr ar eu hol, a chydymdeimlir yn ddwys a'r teuluoedd yn eu profedigaeth.