ABERSOCH - NEWYDD GALARUS.
Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, brawychwyd trigolion yr ardal dawel hon, gan y newydd trist fod un o'i bechgyn ieuaingc wedi syrthio mewn brwydr ym Mhalesteina, ac efe ond 20 oed.Cyfeirio yr ydym at ein cyfaill hoff, Pte. John Evans, Ysgubor Wen. Nid oedd ond pum' mis ers pan yr aeth trosodd.
Nos Fawrth cynhaliwyd cyfarfod coffa yng Nghapel yr Annibynwyr, o'r hon eglwys yr oedd ein brawd anwyl yn aelod, ac yn yr hon hefyd y'i magwyd, ag efe yw y cyntaf o'r plant i syrthio yn y rhyfel erchyll hon. Cafwyd cyfarfod nodedig iawn. Arweiniwyd gan y Parch O. Jones, y gweinidog. Cafwyd ganddo, anerchiad llawn o deimlad, gan gyfeirio at y cymeriad uchel oedd ef yn ei gael yn yr arddal i'r brawd ieuanc. Anerchwyd hefyd yn dyner iawn gan y brodyr, Mri. W. Williams, Caedu; Richard Jones, Sarn; ac Ellis Thomas, Pant yr Hwch.
Hefyd, darllenodd Mr. Jones lythyr tyner iawn oddiwrth un arall o blant Abersoch, a'r unig un or ardal: heblaw J. Evans oedd yn y frwydr wedi bod mewn aml a blin ystormydd y blynyddau diweddaf hyn. Yn y llythyr yn mysg pethau ereill, dywed yr ysgrifenydd iddo gael ei Destament yn un o'i logellau. Gwnaeth Mr. Jones gyfeiriad effeithiol iawn oddiwrth y ffaith hon. Dywedodd fed John Evans wedi gofalu fod ewyllys Iesu Grist gydag ef yn myned i'r frwydr, hefyd, nad oes amheuaeth. nad aeth John o ymyl y Jerusalem ddaearol i mewn i'r Jerusalem Nefol. Cafwyd cyfarfod a gofir yn hir.
Fel y flwyddyn o'r blaen, cofiodd yr eglwys am ei phlant sydd yn y brwydrau. Eleni eto, mewn amser byr, collwyd swm sylweddol, ac y mae chwiorydd ffyddlawn gyda'r gwaith yn anfon cyfran i bob un, ac mae'n deilwng o sylw, fod 19 mewn rhyw gysylltiad a'r eglwys hon allan yn gwasanaethu dros eu gwlad. - Gwilym