DIWEDD TRIST CAPTEN IEUANC.
Dydd Mercher derbyniodd Mr. a Mrs. Coleman, Ogwen House, Bay View Terrace, y newydd prudd fod eu mab, Capten Humphrey Parry Coleman, wedi colli ei fywyd trwy i'w long gael ei suddo gan y gelyn.Er nad oedd y trancedig ond 23 mlwydd oed yr oedd wedi pasio ei arholiad fel Capten llong, ac wedi ei benodi yn Lifftenant yn y Llynges. Yr oedd yn fachgen eithriadol o ddeallgar, ac yn fawr ei barch gan ei gyd-forwyr.
Cydymdeimlir yn fawr a'i deulu yn eu trallod.