LLANBEDROG CHWERW.

Deallwn erbyn hyn fod pob gobaith wedi ei roddi i fyny am ddwy law yr agerlong "Canganian," ac ofnir iddi fyned i wrthdarawiad a llong arall.
Yr oedd Mr Llywelyn Owen, mab ieuengaf Mrs Mary Owen, Brynmor. (Shop Newydd gynt) yn brif swyddog arni, ac y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw.

Y Genedl Gymreig 19/12/1916