WEDI CWYMPO.
Ddydd Iau cyrhaeddodd y newydd prudd i'r dref fod Private William John Morris, mab Mr a Mrs Robert Morris, Ty Capel, Llanbedrog, wedi syrthio yn yr ymosodiad mawr yn Ffrainc.Gwasanaethai fel dilledydd yn masnachdy Mr Isaac M. Anthony, Manchester House, cyn cael gwys i'r fyddin.
Yr oedd yn fachgen deallgar, hoffus a rhinweddol iawn,yn anaml ei eiriau ac yn bur fel dur i gyfaill ac i egwyddor. Syrthiodd y llanc glanwedd yn un o'r brwydrau ffyrnicaf a ymladdwyd eto ar randir y gyflafan yn Ffrainc ac efe megis ar drothwy euraidd byd ei ddatblygiad.
Cydymdeimlir yn fawr a'i rieni yn eu galar mawr am dano.