RHOI EI FYWYD YN ABERTH DROS GYFAILL.
Ddiwedd yr wythnos taenwyd y newydd prudd yn y dref fod Mr Richard Pritchard (Brynllan, Aberdaron, gynt), New Street, wedi colli ei fywyd ar y mor wrth geisio achub cyfaill iddo. Suddodd y llong i ba un y perthynai yn nghanol ystorm erwin a gododd ac a ysgubai bopeth o'i blaen.Cyn i'r ystorm ei dryllio yr oedd Mr Pritchard ar ei bwrdd, a chofiodd fod ei gyfaill, Mr John Jones o Aberdaron, yn ei wely ar y pryd. Aeth i lawr i'w ddeffro, a thra yn y weithred o'i ddi-huno ef suddodd y llong, a boddodd y ddau.
Cyflawnodd weithred arwrol, a rhoes ei fywyd oedd lawned o addewidion gwych i lawr dros arall. Yr un dydd derbyniodd ei weddw ieuanc drallodus hysbysrwydd torcalonus yn dweyd fod ei brawd wedi ei glwyfo'n ddifrifol yn Ffrainc yr un amser ag y collodd ei phriod ei fywyd.
Cydymdeimlir a'r weddw unig ac a'r perthynasau yn eu galar.
Yr Udgorn 15/08/1917
MARW DROS GYFAILL.
Robert G Pritchard.
Cyhoeddwyd yr fyr gennym ychydig yn ôl fel y bu i ddau forwr o Aberdaron golli eu bywydau trwy i'w llong gael ei dryllio mewn ystorm ger Norfolk. Ymddengys fod ystorm anferth wedi parhau am dros wythnos yn y rhan honno.Yr oedd Mri. Robert T Pritchard, New Street, Pwllheli, nai i Mr. Love Pritchard, Brenin Enlli, a Griffith Jones, Ty Canol, Aberdaron, yn gwasanaethu fel peirianwyr ar yr agerlong Tyneford, Glasgow. Ymddygodd Pritchard yn deilwng o arwr yn yr amgylchiad.
Pan oedd y llong ar suddo yn nghanol llid yr elfenau yr olwg olaf a welwyd arno ydoedd yn croesi y bwrdd i fyned i lawr i'r bunk i ddeffroi ei gyfaill Jones. Wele ddisgrifiad o'r amgylchiad fel yr ymddangosid yn yr "Eastern Daily Express." Bu i'r ystorm erwin barhau am wythnos yn Ngogledd Norfolk. Tua phump o'r gloch foreu Gwener bu i'r agerlong Tyneford, o Glasgow gyfarfod a thrychineb sydyn y tu allan i oleudy Cromer. Cafodd ei throi mewn tonau llidiog, a suddodd yn fuan wedyn.
Bu i chwech o'r dwylaw, yn cynnwys y capten, lwyddasant i ymlusgo i anedd-dy gerllaw haedd y lan mewn modd gwyrthiol. Ni chawsant amser i ddangos arwyddion o berygl nac i alw am help, ac ni wyddwyd dim am y trychineb hyd nes y cyrhaeddodd y dwylaw y lan yn hanner marw, y rhai a lwyddasant i ymlusgo i anedd-dy gerllaw Mundesley.
Bu i'r ail fate, sef Robert H. H. Smith, o Sunderland, gael ei achub. Bu i'r naw hyn lwyddo i fyned i'r cwch bach yr hwn a faluriwyd pan oeddynt o fewn chwarter milldir i'r lan, a nofiasant hwythau i ddiogelwch. Llwyddodd un o'r dwylaw, Rwsiad o genedl, i gyrhaedd y lan trwy gymorth lifebelt heb gwch o gwbl.
Mae'r chwech a gollwyd yn cynwys Capten Hall, o Sunderland, McCombs, o Dunden, a. dau beirianydd o Gymru, o'r enwau Pritchard a Jones.