EI LADD.
Boreu Mawrth diweddaf derbyniodd y Parch. H. J. Manley a Mrs. Manley, Y Rheithordy, y newydd prudd fod eu hunig fab, Capten G. H Jones Manley, wedi syrthio yn aberth ar allor gwasanaeth ei wlad yn ngwlad Canaan. Nid oedd ond tua 22 mlwydd oed, ac yr oedd wedi ei ddyrchafu o fod yn private i fod yn gapten.Yr oedd yn fachgen ieuanc siriol a charedig, ac yn cael ei hoffi yn fawr gan ei holl gyfoedion. Cyn y rhyfel yr oedd yn parotoi ar gyfer y weinidogaeth yog Ngheleg Ellesmere, ac yr oedd rhagolygon gobeithiol am ddyfodol disglaer iddo.
Cydymdeimlir yn fawr a'i rieni trallodus a'i chwaer yn eu profedigaeth annisgwyliadwy.
Yr Udgorn 21/11/1917
ER COF AM CAPTEN MANLEY, LLANBEDROG.
Brydnawn ddydd Mawrth daeth cynulliad parchus a lluosog ynghyd i Eglwys y Plwyf, Llanbedrog, i'r gwasanaeth coffadwriaethol, a gynhaliwyd ar ôl y diweddar Gapten George Manley, mab y Paroh H. J. a Mrs. Manley. Daeth y fath gynulliad yng nghyd fel y methodd llu mawr a chael lle i fyned i mewn.Arweiniwyd y gwasanaeth gan yr Archddiacon Lloyd Jones a chwareuwyd yr organ gan Mr Pentir Roberts. yr ysgolfeistr.
Caed anerchiad gan y Parch Wheldon Griffiths, Rheithor Llangiistiolus, yr hwn fu ar un adeg yn gurad Llangian. Rhoddai air uchel i'r diweddar Gapten Manley. Dywedai ei fod wedi marw yn aberth dros y wlad pan o fewn ychydig i'r Jerusalem ddaearol, ac nad oedd amheuaeth yn meddwl neb ai hadwaenai na chyrhaeddodd y Jerusalem nefol. Yr oedd yn ysgolor gwych. Ennillodd ysgolariaeth yn Rhydychain, ac yr oedd wedi dechreu ar ei addysg yno pan dorodd y rhyfel allan. Bu iddo ymuno fel milwr cyffredin a phan oedd yn 21 mlwydd oed dyrchafwyd ef yn gapten parhol yn y fyddin. Daeth trwy yr holl galedi yn SuvIa Bay, ac yn yr Aifft ar ôl hynny.
Yn mysg y rhai oedd yn bresennol yr oedd y Parch H. J. a Mrs Manley, Miss Manley, Parch R. D. Morgan, Bryngwran a Mrs Morgan; Mr. E. Morgan, Y.H., a Miss Morgan, Llanor; Capten Sinnett-Jones, Carlton House, Llanor; Miss Williams, Llansantffraid, prif alarwyr; hefyd, Canon J. P. Lewis Llanystumdwy; y Pardhn. J. E. Owen, Aberdaron; W. S. Williams, Bottwnog; J. Lodwic Davies, Bryncroes; D. Sinnett Jones, Rhiw; O. Thomas, Tydweiliog', J. Bangor Jones, Edern; George Salt, Bodfean, a William Salt; T. E. Sheppard-Jones, Llanor; Mrs a Miss Sheppard-Jones; J. Edwards, Pwllheli; Mrs Edwards; D. Jones Abererch. a Mrs Jones; R. M. Edmunds (A.), Llanbedrog; Dr. Gwenogfryn Evans; Mr. C. H. Lloyd-Edwards, Nanhoron; Mr. W. W. Griffiths, a Misses Griffiths, Castellmarc;h Henadur Abel Williams, Abersoch; Capt. Williams, Olgra; Dr. H. C. Owen, a Mrs Owen, Abersoch Mrs Lucas, Ndihlue Mhope; Mrs Evans, Garth, Abersoch; Mr. J. G. Jones, a Mrs Jones, Penmaen; Mr. O. Robyns Owen, Pwllheli; Mr Cornelius Roberte (Maer Pwllheli); Baroness De Thotron; Lieut. R. Walter Roberts. Pwllheli; Mrs Winch, Abersoch; Capt. Winch. B.F.A.; Lieut. Freeman, Bryncelyn.
Yr Herald Gymraeg 04/12/1917
Coffadwrlaeth Cadben Manley, Llanbedrog.
Deallwn fod Wardeiniaid Llanbedrog (Mr. Morris, Crugan, a Mr. Williams, Henllys uchaf), wedi galw cyfarfod i ystyried yr uchod. Penodwyd Dr. Gwenogfryn Evans, Tremvan, yn Gadeirydd, Mr. W. Pentir Roberts (Ysgolfeistr), yn Is-Gadeirydd, a Miss Holt, Penbryngoleu, yn Drysorydd y Pwyllgor.Mewn parch i ddymuniad pendant rhieni y diweddar Cadben Manley, ni wna y Pwyllgor un apel yn gofyn am danysgrifiadau, dim ond yn unig gwneyd yn hysbys fod Cronfa Goffadwriaethol i Cadben Manley wedi ei hagor er rhoddi ffenestr liwiedig i fynu yn Eglwys y Plwyf.
Gofynir i bwy bynag ewyllysia danysgrifio, wneyd hyny trwy anfon eu rhoddion i Miss Holt, Penbryngoleu, Llanbedrog.