DYRCHAFIAD.
Bydd yn dda gan gyfeillion Mr. Thomas John Jones, gynt o Fryn Seion, Llanbedrog, (mab ieuangaf y diweddar Barch. Evan Jones., Llanbedrog), ddeall ei fod wedi ei ddyrchafu i'r swydd o gapten gyda'r fyddin, y dyrchafiad i ddyddio o'r 5ed, o Ebrill diweddaf.Mae Capten T. J Jones, ar hyn o bryd gyda'r R.F.A. yn Ffrainc. Pan dorodd y rhyfel allan yr oedd yng ngholeg y Brif Ysgol ym Mangor, yn myned trwy gwrs o addysg gogyfer a'r cylch addysgol.
Ymunodd i ddechreu fel 2nd. lieutenant ac aeth allan gyda'r gartrawd yn mis Rhagfyr 1915. Wedi hynny cafodd ei ddyrchafu yn 1st. lieutenant. Mae wedi cael profiad llym o'r rhyfel, gan ei fod wedi bod trwy frwydrau y Somme yr haf diweddaf yn ogystal a brwydrau mawr yr wythnosau hyn.
Dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei swydd newydd, gan obeithio yr arbedir ef i ddychwelyd yn ôl yn ddianaf ar derfyn y rhyfel.
Yr Udgorn 20/06/1917
WEDI EI GLWYFO YN YSGAFN.
Yn un o newyddiaduron dyddiol hysbyswyd fod Lieut. T. J. Jones, o'r ardal hon, wedi ei ladd yn y rhyfel. Yn ffortunus nid yw hyny yn wir. Wedi ei glwyfo'n ysgafn y mae.Mae'n amlwg fod camgymeriad wedi ei wneud, gan fod un arall o'r un enw pethynol i Fôn wedi ei restru yn mysg y rhai a laddwyd.
Yr Udgorn 22/08/1917
CWYMP SWYDDOG MILWROL.
Derbyniwyd y newydd yr wythnos ddiweddaf am farwolaeth Capt. Thomas John Jones, gynt o Fryn Seion, yr hyn a gymerodd le ar faes y frwydr yn Ffraingc ar yr 22ain o Ebrill. Tarawyd ef gan danbelen, a bu farw yn fuan ar ôl hynny.Mab ieuengaf y diweddar Barch. Evan Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanbedrog a Mynytho, ydoedd Capt. T. J. Jones. Naw mlwydd ar hugain ydoedd ei oedran.
Cyn ymuno a'r fyddin yr ydoedd yn fyfyriwr yng ngholeg y Brif Ysgol ym Mangor, yn paratoi gogyfer a gyrfa addysgol. Ymunodd a'r fyddin yn wirfoddol yn mis Awst, 1914, a derbyniodd gomisiwn yr un adeg. Trosglwyddwyd ef i'r adran Gymreig o'r fyddin yn lonawr, 1915, ac aeth allan i Ffraingc gyda hwy ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn fel ail is gapten gyda'r 122nd Brigade, R.F.A. Bu yng nghanol y brwydro ar y Somme yn 1916 ac yn y brwydro yn 1917.
Anafwyd ef ym mis Awst y flwyddyn honno, a daeth i'r wlad hon i adgyfnerthu. Aeth allan drachefn ym mis Rhagfyr diweddaf, a bu yng nghanol llawer o'r brwydro gymerodd le yn ystod Mawrth ac Ebrill eleni.
Mewn llythyr at ei frawd, ysgrifenwyd y diwrnod cyn iddo farw, yr oedd yn desgrifio y pymthefnos cynt megis "oes" gan mor arw ydoedd yr amgylchiadau. Dyrchafwyd ef ddwywaith, yng nghyntaf i'r swydd o is-gapten ac yna yn gapten.
Mewn llythyr dyddiedig yr 22ain o Ebrill, yn cynwys hysbysiad am ei farw, ysgrifenodd Uwch-gapten y Brigade am dano :
"Bydd pawb o'r dynion a fy hunan yn arbenig yn sicr o deimlo y golled am dano yn erchyll. Yr oedd megis brawd i mi, ac y mae y fyddin wedi colli swyddog a milwr rhagorol."
Ysgrifenodd Milwriad y Gatrawd hefyd fel y ganlyn :—
" Yr wyf ond newydd roddi i fynu reolaeth yr 122nd brigade, yn yr hon y darfu iddo ef wasanaethu mor dda am dymhor mor hir. Nid oedd yna gymrawd dewr mwy cydwybodol nag ef, ac y mae ei farwolaeth yn golled fawr ac yn achos o hiraeth i'r rhai sydd ar ôl.
Mae ein cydymdeimlad gyda'r teulu a'i ddau frawd, Mr R. W. Jones, Levenshulme, Manchester, a Mr Daniel Owen Jones, Liverpeol, yn eu profedigaeth lem.
Yr Udgorn 08/05/1918
CAPTAIN THOMAS JOHN JONES KILLED.
News has been received of the death in action in France of Captain Thomas John Jones, Llanbedrog, on April 22nd. Captain Jones, who was twenty-nine years of age, was stationed at Pwllheli with the R.F.A. for two years.He was the youngest son of the late Rev. Evan Jones, Congregational minister, Llanbedrog, and before joining the colours was a student at Bangor College. He volunteered for service in August, 1914, and obtained his commission as lieutenant in the same month. He went out with the R.F.A. (Welsh) in December, 1915, and went through the fighting on the Somme front during 1916 and the offensive of 1917, being wounded during August of the same year. He was invalided home, but went out again in December.
He was twice promoted, first to lieutenant and afterwards to captain. He was a successful officer and extremely popular with his men.
In a letter to his mother his Major wrote :-
"The whole battery, and myself in particular, will miss him terribly. He was almost like a brother to me and the Brigade has lost a very fine soldier and officer."
His Colonel also wrote as follows :
"I have only lately given up command of the 122nd Brigade, in which he had served so long and well. There was no more conscientious brave fellow than he, and his death is a great loss and grief to those who are left."
Much sympathy is felt with his two brothers and family in their bereavement.