MARW LIEUT. CLAYTON.
Cyrhaeddodd y newydd ddydd Sadwrn fod Lieut. G. E. C. Clayton, Penarwel, wedi marw yn Llundain, ac efe yo 35 mlwydd oed. Brodor o Lerpwl oedd Mr Clayton, ac yr oedd yn fargyfreithiwr.Pan dorodd y rhyfel allan ymunodd o'i wiriodd a'r fyddin fel despatch rider. Ei gerbyd modur ef oedd yr olaf i adael Antwerp, a chafodd ei falu'n ysgyrion o dano gan belenau ffrwydrol.
Bu Mr Clayton wedi hyny yn ymarfer gyda'r Royal Naval Reserves yn y Palas Grisial, lle y cafodd glefyd marwol.
Yr oedd yn foneddwr cyfoethog iawn, ac yn ŵr caredig a hael ei galon. Y mae ei weddw yn chwaer i'r Barwn de Thoren.
Cymerodd yr angladd le yn Llanbedrog ddydd Llun diweddaf. Gwasanaethwyd gan y Tad Jarvis a chynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn yr Eglwys Babyddol.
Cydymdeimlir yn fawr a'i weddw a'i blant.