Alyn T Pritchard.
Alyn T Pritchard, mab y Parchedig J T Pritchard (Myfyrfab) a Mrs Pritchard, Bryn, Aberdaron.Gweinidog gyda'r Methodustiaid Calfinaidd am 16 o flynyddoedd, ac wedyn wedi symyd i fyw i Chwilog yn 1917.
Alyn wedi ymuno a'r fyddin ac yn stretcher bearer gyda'r R A M C. Wedi cael ei glwyfo pan yn Ffrainc ac ar ol gwella yn telephone operator.
Cafodd ei ladd ar y 6ed Tachwedd 1917. Heb ddarganfod Regiment no iddo , efallai nad oedd ganddo un am ei fod yn telephone operator?
Cyfansoddodd Cybi gerdd cofiant iddo, dan yr enw Cwymp y Milwr .
Manylion gan Glyn Roberts.
WEDI CWYMPO.
Hefyd drwg genym ddeall fod Private Alun Pritchard, mab y Parch. a Mrs J. T. Pritchard, Aberdaron, wedi syrthio yn y frwydr yn yr Aifft.Yr oedd yn un o'r bechgyn siriolaf ac addfwynaf a welwyd erioed. Bu'n gwasanaethu yn siop Pwlldefaid cyn ymuno, ac yr oedd pawb yn hoff o hono.
Cydymdeimlwn yn ddwys a'r teulu oll yn eu tristwch.